Cyfiawnhad

Ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd yn ardal Bangor (NRW, 2020).
Cynllun rheoli risg llifogydd
Mae SMP2 Gorllewin Cymru a Chynllun Rheoli Risg Llifogydd Gorllewin Cymru wedi nodi y byddai cynnydd sylweddol mewn risg llifogydd a chodiad yn lefel y môr yn ardal Hirael ac mae’n argymell y dylai cynllunio tymor hir edrych ar “adlinio a ailddatblygu … i ddarparu dyfodol mwy diogel ar gyfer datblygu ardal y glannau hwn”.


Eiddo sydd mewn perygl o lifogydd llanw ar gyfer digwyddiad 1/100 mlynedd yn lefelau’r mor 2020 a 2050.
Yr achos dros newid
Prif fudd y prosiect yw lleihau’r risg o lifogydd dŵr llanw a dŵr wyneb i bobl ac eiddo yn Hirael. Bydd y cynllun (iau) arfaethedig yn lleihau’r risg hon ar gyfer 194 eiddo o ddigwyddiad llifogydd llanw 1/100 mlynedd hyd at 2050 (ac ar ol hynny, bydd angen ystyried yr atebion rheoli ymhellach). Bydd hyn yn helpu i sicrhau cymuned iach, gydnerth a chynaliadwy yn y dyfodol.
Mae’r cyfnod o 50 mlynedd wedi’i argymell am y rhesymau a ganlyn:
-
Mae modelu wedi dangos y tu hwnt i 2050, y bydd newidiadau ar raddfa fawr i’r drefn llifogydd leol, sy’n golygu y bydd amddiffyn Hirael yn do yn fwyfwy heriol.
-
Sicrhau bod y cynllun yn cyd-fynd â SMP2 Gorllewin Gorllewin Cymru ehangach.

Amddiffynfeydd gwanhau ac annigonol
Mae ffryntiad arfordirol Beach Road yn cynnwys cymysgedd o amddiffynfeydd sy’n dechrau dangos eu hoedran, ac mae’r modelu wedi datgelu y byddent ond yn amddiffyn Hirael rhag llifogydd 1 mewn 3 blynedd (siawns 33% o gael y fath llifogydd yn digwydd mewn blwyddyn). Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ddigwyddiadau llifogydd, cliciwch isod …
Cynllun atal llifogydd Hirael
FCRMU@gwynedd.llyw.cymru
YGC | Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy
Ffordd Pafiliwn
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1BN
Ei’n gwaith
Gwybodaeth
Mentrau
Prosiectau eraill

(01286) 679426
