Ystyriaeth
amgylcheddol
Blaenoriaeth allweddol i bob prosiect adeiladu mawr
heddiw yw gofalu am yr amgylchedd. Mae hynny’n
golygu cyflawni’r gwaith gyda’r tarfu lleiaf ar fywyd
gwyllt a llystyfiant lleol wrth wella bioamrywiaeth a
lleihau ein hôl troed carbon.

Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA)
Mae’r prosiect hwn yn cwrdd â gofynion “prosiect Atodlen 2” o fewn cyfarwyddeb AEA, ac felly mae angen barn sgrinio AEA gan Gyngor Gwynedd ac Adnoddau Naturiol Cymru.

Ansawdd aer
Mae gweithgareddau adeiladu yn debygol o gynhyrchu allyriadau llwch a cherbydau, ac felly gweithredir mesurau priodol i leihau’r allyriadau hyn, gan sicrhau bod cyn lleied â phosibl o aflonyddwch i drigolion a bywyd gwyllt. Oherwydd maint y gwaith, mae’n annhebygol y byddai unrhyw effaith sylweddol ar ansawdd aer yn digwydd. Rhaid i isgontractwyr llwyddiannus nodi sut y byddent yn lleihau allyriadau llwch.

Tirwedd
Mae arfordir Ynys Môn yn AHNE dynodedig (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol), ond ni ddisgwylir y bydd y gwaith yn torri ar yr AHNE o gwbl. Mae rhannau o Fangor yn ardaloedd cadwraeth dynodedig, ond unwaith eto nid yw’r cynllun yn torri ar ardaloedd o’r fath. Mae gwerthusiad tirwedd a gweledol wedi’i gynnal ac mae’n argymell y dylid cynllunio’n ofalus i beidio â chuddio golygfeydd eiddo. Mae hefyd yn argymell y dylid dylunio’r isadeiledd a’r dodrefn newydd fel na fyddant yn tynnu eu golwg, gan ddefnyddio carreg naturiol ar gyfer cladin. Gweler y dudalen dogfennau technegol am fwy.

Bioamrywiaeth
Paratowyd Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol (PEA) (gweler dogfennau technegol) sy’n nodi manylion y llinell sylfaen ecolegol a gofynion yr arolwg, ac yn darparu manylion ar ba fesurau lliniaru sydd eu hangen i ddiogelu bioamrywiaeth. Y rhywogaethau allweddol a ystyrir yw ystlumod, dyfrgwn, moch daear, adar, ymlusgiaid ac amffibiaid. Gellir gweld rhestr lawn o arolygon yn adroddiad PEA.

Deunyddiau
Mae’r deunyddiau y disgwylir iddynt fod yn ofynnol i adeiladu’r cynllun yn cynnwys concrit, dur a gwaith maen. Dylai unrhyw waith maen sy’n cael ei gorffori fel rhan o’r cynllun gyd-fynd â nodweddion gwaith maen presennol yn yr ardal, a dylid dod ohono gan y cyflenwr addas agosâf lle bo hynny’n bosibl. Bydd egwyddorion hierarchaeth gwastraff yn lleihau gwastraff, a bydd deunyddiau’n cael eu hailddefnyddio ar y safle lle bo hynny’n bosibl.

Sŵn a dirgryniad
Mae’r gwaith adeiladu arfaethedig yn debygol o gynhyrchu lefelau sŵn a dirgryniad sy’n uwch na’r lefelau presennol, gan achosi aflonyddwch i breswylwyr. Gall cynnydd mewn sŵn a dirgryniad hefyd effeithio ar fioamrywiaeth yn yr ardal gyfagos. Mae cynnydd mewn lefelau sŵn a dirgryniad yn debygol o gael ei gyfyngu i’r cyfnod adeiladu, a’r oriau gwaith, ac maent yn debygol o ddychwelyd i normal ar ôl cwblhau’r gwaith. Er y gallai fod cynnydd yn y lefelau sŵn a dirgryniad, ni ddisgwylir y byddai’r codiadau hyn yn sylweddol uwch na’r sŵn traffig presennol.
Cynllun atal llifogydd Hirael
FCRMU@gwynedd.llyw.cymru
YGC | Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy
Ffordd Pafiliwn
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1BN
Ei’n gwaith
Gwybodaeth
Mentrau
Prosiectau eraill

(01286) 679426
