Amddiffyn eich cymuned leol rhag newid yn yr hinsawdd

Croeso i wefan swyddogol cynllun atal llifogydd Hirael

Ein nod yw buddsoddi yn nyfodol y gymuned trwy hyrwyddo diogelwch llifogydd, ymwybyddiaeth, gwydnwch a lles lleol trwy adeiladu amddiffynfeydd llifogydd newydd.

Ynglŷn â’r prosiect

Mae’r prosiect hwn wedi digwydd o ganlyniad i Gynllun Rheoli Risg Llifogydd Gorllewin Cymru. Mae’r cynllun wedi nodi, yn ardal Hirael “y byddai cynnydd sylweddol mewn risg llifogydd gyda chodiad yn lefel y môr”.

Mewn ymateb, mae YGC ac AECOM wedi dylunio cynllun risg llifogydd i amddiffyn y gymuned hyd at 2100.

Cliciwch ar yr linc isod i ddarganfod fwy am yr prosiect yma…

Datblygiadau diweddaraf

Darganfyddwch beth sydd wedi bod yn digywdd yn ddiweddar

Datganiad i'r wasg

“Cyngor Gwynedd yn diogelu Hirael rhag llifogydd arfordirol”

Os ydych chi’n byw yn lleol, neu’n rhan o gymuned Hirael, hoffwn glywed eich barn chi…

Mae’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus bellach wedi dod i ben yn ffurfiol, ond rydym yn dal yn agored i gwestiynau a sylwadau gan y cyhoedd. Cymerwch gip ar y cais cynllunio i weld beth sy’n digwydd.

Cynllun atal llifogydd Hirael

FCRMU@gwynedd.llyw.cymru

YGC | Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy

 

Ffordd Pafiliwn

 

Caernarfon

 

Gwynedd

 

LL55 1BN